NT Live – “The Playboy of the Western World”

Dydd Gwener 29ain Mai

Mae Nicola Coughlan (Bridgerton) yn ymuno ag Éanna Hardwicke (The Sixth Commandment) a Siobhán McSweeney (Derry Girls) yn nrama gyfareddol John Millington Synge am ieuenctid a hunanddarganfyddiad.

Mae bywyd Pegeen Flaherty yn cael ei droi wyneb i waered pan mae dyn ifanc yn cerdded i mewn i'w thafarn gan honni ei fod wedi lladd ei dad. Yn lle cael ei osgoi, mae'r llofrudd yn dod yn arwr lleol ac yn dechrau ennill calonnau, hynny yw nes i ail ddyn gyrraedd yn annisgwyl ar y llwyfan…

Wedi'i ffilmio'n fyw ar lwyfan yn y Theatr Genedlaethol, mae Caitríona McLaughlin yn cyfarwyddo'r stori dywyll, ddoniol hon sy'n llawn cyfrinachau.

Tocynnau ar gael yn fuan.